Yn dilyn proses tendro cystadleuol, rydym ni wedi cael ein penodi i banel o gwmnïau cyfreithiol gyda’r nod o roi cyngor cyfreithiol i Gomisiynydd y Gymraeg.
Drwy gydol y cytundeb fframwaith pedair blynedd, sy’n dechrau ar 1af Ebrill 2025, bydd galw i ni roi cyngor ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Deddf yr Iaith Gymraeg. Byddant hefyd yn darparu cynrychiolaeth mewn achosion o flaen Tribiwnlys y Gymraeg ac yn cynghori ar gyfraith cyflogaeth a llywodraethu, ymhlith arbenigeddau eraill.
Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg:
“Mae natur ein gwaith, yn enwedig fel rheoleiddiwr, yn golygu ei bod yn ofynnol i ni sicrhau cyngor cyfreithiol cadarn, ac yn aml, gyngor arbenigol yng nghyd-destun yr iaith Gymraeg. O ganlyniad rhaid i ni fod yn hyderus yn y cwmnïau fydd yn darparu’r gwasanaeth pwysig hwn ar ein cyfer. Mae cwmni Hugh James wedi profi fod ganddynt dealltwriaeth o’n hamryw feysydd gwaith ac yn llawn ymwybodol o’n nodau fel sefydliad lle mae’r Gymraeg yn flaenllaw. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio dros y blynyddoedd nesaf.”
Fel corff a sefydlwyd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, bydd Comisiynydd y Gymraeg yn rhoi hwb pellach i ein practis sector cyhoeddus hir-sefydlog, trwy rydyn ni’n cynghori dros 50 o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg, darparwyr gwasanaethau brys, a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru fel Trafnidiaeth Cymru, Banc Datblygu Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Wrth wneud sylw ar y penodiad, dywedodd Ioan Prydderch, Pennaeth ein adran Fusnes:
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein penodi i gynghori Comisiynydd y Gymraeg. Fel cwmni cyfreithiol mwyaf Cymru, a busnes Cymreig balch, mae gennym gyfrifoldeb i hybu, defnyddio a thyfu’r Gymraeg. Er bod y cwmni bellach wedi tyfu i fwy na 700 o bobl yn gweithredu o bum swyddfa ledled Cymru a Lloegr, rydym yn parhau i fod yn falch o’n gwreiddiau Cymreig ac yn falch o weithio gyda sefydliad sydd â’r nod o hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.”